Yr hyn yr ydym yn ei wneud

Yr ESRC yw sefydliad mwyaf y DU ar gyfer ariannu ymchwil ar faterion economaidd a chymdeithasol. Rydym yn cynorthwyo ymchwil annibynnol, o ansawdd uchel sy’n effeithio ar fusnesau, y sector cyhoeddus a’r trydydd sector. Cyfanswm ein cyllideb ar gyfer 2012/13 yw £205 miliwn. Ar unrhyw adeg, rydym yn cefnogi dros 4,000 o ymchwilwyr a myfyrwyr ôl-radd mewn sefydliadau academaidd a sefydliadau ymchwil annibynnol.

Rydym yn gorff cyhoeddus, anadrannol a sefydlwyd trwy Siarter Brenhinol ym 1965 ac rydym yn cael y rhan fwyaf o’n cyllid trwy’r Adran Busnes, Arloesedd a Sgiliau. Mae ein hymchwil yn drwyadl ac yn awdurdodol, gan ein bod yn cynorthwyo gwyddorau cymdeithasol annibynnol, perthnasol, o ansawdd uchel.

Rydym yn cynnig:

  • Ansawdd: Mae holl ddyfarniadau ymchwil yr ESRC yn cael eu gwneud trwy gystadleuaeth agored, yn amodol ar asesiad tryloyw gan gymheiriaid ar y dechrau a gwerthusiad wrth eu cwblhau. Gweithredir safonau trwyadl i’r holl hyfforddiant yr ydym yn ei gynorthwyo.  Mae ein hymchwil yn aml yn cynnwys timau amlddisgyblaethol, cydweithredu â chynghorau eraill, ac mae’n aml yn cymryd golwg hirdymor. Mae ein setiau data, ein hastudiaethau hydredol a phanel yn adnoddau sydd wedi cael cymeradwyaeth ryngwladol.
  • Effaith: Mae ein hymchwil yn gwneud gwahaniaeth: mae’n llunio polisïau cyhoeddus ac yn gwneud busnesau, cyrff gwirfoddol a sefydliadau eraill yn fwy effeithiol yn ogystal â llunio cymdeithas ehangach. Mae ein cynlluniau cyfnewid gwybodaeth wedi eu dyfeisio yn ofalus i gynyddu effaith economaidd a chymdeithasol yr ymchwil yr ydym yn ei hariannu i’r eithaf.
  • Annibyniaeth: Er ein bod yn cael ein hariannu’n gyhoeddus, mae ein Siarter Brenhinol yn pwysleisio pwysigrwydd ymchwil annibynnol a diduedd. Nid oes gennym unrhyw ymchwilwyr ‘mewnol’, ond rydym yn dosbarthu arian i academyddion mewn prifysgolion a sefydliadau eraill ar draws y DU.

Mwy o wybodaeth am yr ESRC

Yr ESRC a’r gwyddorau cymdeithasol