Swyddfeydd rhyngwladol y cynghorau ymchwil

Mae’r cynghorau ymchwil wedi cael presenoldeb dramor ers agor Swyddfa Ymchwil y DU (UKRO) ym Mrwsel ym 1984. Noddir UKRO gan yr holl gynghorau ymchwil.  Mae’n rhoi gwybodaeth a chyngor, i sefydliadau’r DU sydd yn tanysgrifio yn bennaf, am gyfleoedd a ariennir gan yr Undeb Ewropeaidd ar gyfer ymchwil ac addysg uwch.

Ym mis Hydref 2006, gwahoddodd y Fforwm Gwyddoniaeth ac Arloesi Byd-eang y cynghorau ymchwil i ystyried agor mwy o swyddfeydd rhyngwladol er mwyn hwyluso ymchwil gydweithredol mewn gwledydd penodol.

Agorodd RCUK Swyddfa’r UD yn 2007 er mwyn nodi a hwyluso cydweithrediadau ymchwil newydd ar draws rhychwant yr ymchwil. Mae cysylltiadau ymchwil gyda’r UD wedi eu sefydlu’n dda a’r DU yw’r cydweithredwr pwysicaf i ymchwilwyr yr UD.

Mae’r DU yn cydweithredu mewn ymchwil gyda Tsieina yn fwy nag unrhyw wlad Ewropeaidd. Agorwyd Swyddfa’r RCUK yn Tsieina yn 2007 hefyd, gyda’r genhadaeth gyffredinol o helpu systemau cymorth ymchwil gwahanol iawn y DU a Tsieina i gyd-fynd yn y fath fodd bod gweithgareddau ymchwil ar y cyd rhwng y DU a Tsieina yn gallu cael eu datblygu a’u dethol ar gyfer cyllid.

Swyddfa fwyaf newydd yr RCUK yw Swyddfa’r RCUK yn India, a agorwyd ym mis Hydref 2008, er mwyn newid y partneriaethau ymchwil rhwng y ddwy wlad yn sylweddol.

Swyddogaeth swyddfeydd yr RCUK yn yr UD, Tsieina ac India yn bennaf yw rhoi amlygrwydd i’r cynghorau ymchwil dramor; nid ydynt yn darparu’r gwasanaethau yn uniongyrchol i’r ymchwilwyr yn yr un ffordd ag y mae UKRO yn ei wneud.