Sefydliadau â diddordeb yn y gwyddorau cymdeithasol

Isod ceir dolenni i sefydliadau eraill yn y DU ac yn rhyngwladol sydd â diddordeb yn y gwyddorau cymdeithasol.

Darperir y dolenni hyn er gwybodaeth yn unig; nid ydym yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

  • Yr Academi Brydeinig – academi genedlaethol y DU ar gyfer y dyniaethau a’r gwyddorau cymdeithasol.
  • Y Cyngor Prydeinig - sefydliad rhyngwladol y DU ar gyfer cyfleoedd addysgol a chysylltiadau diwylliannol. Yn ogystal ag addysg, mae’n cynnal rhaglenni yn y celfyddydau, gwyddoniaeth, chwaraeon, llywodraethu a’r Saesneg.
  • Gwasanaeth Gwybodaeth Ymchwil a Datblygu Cymunedol (CORDIS) – gwasanaeth gwybodaeth y Comisiwn Ewropeaidd sydd wedi ymrwymo i ymchwil a datblygu (YaD) a hyrwyddo arloesi. Mae’r safle hwn yn rhoi gwybodaeth am y Fframwaith a rhaglenni eraill yn ogystal ag ystod o raglenni cydweithredol ar gyfer ymchwil ryngwladol.
  • Europa – gwefan yr UE.
  • Sefydliad Gwyddoniaeth Ewrop (ESF) – sefydliad o 80 o aelod-sefydliadau sy’n ymrwymo i ymchwil wyddonol mewn 30 o wledydd Ewropeaidd.
  • Cyngor Rhyngwladol y Gwyddorau Cymdeithasol (ISSC) - sefydliad rhyngwladol di-elw sy’n cynrychioli’r gwyddorau cymdeithasol ac ymddygiadol ar lefel fyd-eang.