Ein cenhadaeth, ein strategaeth a’n blaenoriaethau
Mae ein hymchwil yn gwneud gwahaniaeth. Mae’n llunio polisïau cyhoeddus ac yn gwneud busnesau, cyrff gwirfoddol a sefydliadau eraill yn fwy effeithiol.
Ein cenhadaeth
Ein rôl yw:
- hyrwyddo a chynorthwyo, trwy unrhyw ddull, ymchwil sylfaenol, strategol a chymhwysol o ansawdd uchel a hyfforddiant ôl-radd perthnasol yn y gwyddorau cymdeithasol
- datblygu gwybodaeth a darparu gwyddonwyr cymdeithasol wedi eu hyfforddi sy’n bodloni anghenion defnyddwyr a buddiolwyr, gan felly gyfrannu at gystadleuaeth economaidd y DU, effeithiolrwydd gwasanaethau a pholisi cyhoeddus ac ansawdd bywyd
- rhoi cyngor ar y gwyddorau cymdeithasol, lledaenu gwybodaeth amdanynt a hybu dealltwriaeth y cyhoedd ohonynt.
Ein strategaeth a’n blaenoriaethau
Ar ôl ceisio barn yn 2011, fe wnaethom fireinio ein blaenoriaethau strategol. Mae Cynllun Cyflenwi 2011-2015 yn canolbwyntio ar dair blaenoriaeth:
- Perfformiad Economaidd a Thwf Cynaliadwy
- Dylanwadu ar Ymddygiad a Llywio Ymyriadau
- Cymdeithas Fywiog a Theg
Mae’r rhain yn ymgorffori materion sylweddol i Brydain, y byd ehangach ac i’r gwyddorau cymdeithasol a nodwyd mewn proses o fireinio. Byddwn yn ailystyried y blaenoriaethau bob blwyddyn ac yn eu diweddaru yn ôl yr angen. Mae’r tair blaenoriaeth yn tywys ein gwaith tuag at gynyddu i’r eithaf effaith ymchwil, adnoddau a buddsoddiadau hyfforddiant presennol. Ein bwriad hefyd yw cyfeirio rhywfaint o’r gyllideb tuag at weithgareddau newydd.
Mae Cynllun Strategol 2009-2014 yn sefydlu ein prosbectws ar gyfer yr hyn y gall ac y mae’n rhaid i’r gwyddorau cymdeithasol ei wneud dros y blynyddoedd nesaf. Mewn ymgynghoriad gydag academyddion, y llywodraeth a phartneriaid eraill, rydym wedi nodi meysydd penodol o her strategol ar gyfer y gwyddorau cymdeithasol.
Mae Cynllun Cyflenwi 2011-15 a Cherdyn Sgorio 2011/12 (PDF, 164Kb) yr ESRC yn cael eu datblygu am gyfnod o dair blynedd ar ôl i adolygiad gwariant y llywodraeth gael ei gwblhau. Mae’r Cynllun Cyflenwi’n sefydlu ein blaenoriaethau ariannu lefel uchel a bydd y gweithgareddau’n mynd rhagddynt dros gyfnod yr adolygiad gwariant. Mae’r Cerdyn Sgorio’n sefydlu ein targedau a’n cerrig milltir tuag at gyflawni’r amcanion a nodir yn y Cynllun, a chaiff ei adnewyddu’n flynyddol.
Mae ein Hadroddiad Blynyddol yn rhoi gwybodaeth am ein gweithgareddau yn ystod y flwyddyn ariannol flaenorol yn cynnwys dadansoddiad o’n gwariant ar ymchwil a hyfforddiant, a’n portffolio ymchwil.
Rheoli galw
Mewn ymateb i gam-gymharu cynyddol rhwng cymhwyso rhifau a chyfraddau llwyddiant, rydym ni - ynghyd â’r Cynghorau Ymchwil eraill - yn ystyried mesurau i reoli galw.
