Y gwyddorau cymdeithasol ac ymgysylltu â’r cyhoedd
Mae gan ymchwil y gwyddorau cymdeithasol rôl bwysig yn ein cymdeithas. Rydym o’r farn y bydd codi ymwybyddiaeth y cyhoedd o’r gwyddorau cymdeithasol ac annog eu cyfranogiad mewn ymchwil cymdeithasol ac yn ymwneud â gwyddoniaeth yn troi’n fuddion gwirioneddol i gymdeithas ac unigolion.
Ein nodau yw:
- parhau i gychwyn a sefydlu trafodaeth gyhoeddus yn ymwneud â’n hamcanion a’n prosesau strategol
- cefnogi a galluogi ymchwilwyr a buddsoddiadau’r ESRC i ymgysylltu â’r cyhoedd
- ymgysylltu ag athrawon, pobl ifanc a rhanddeiliaid addysg i roi’r sgiliau i bobl ifanc yn y DU i fod yn ddinasyddion gwybodus, a’u gwneud yn ymwybodol o yrfaoedd yn y gwyddorau cymdeithasol.
Er mwyn cyflawni’r nodau hyn, rydym yn cynnig lefelau cymorth gwahanol sy’n rhoi cyfle i’r cyhoedd, pobl ifanc ac ymchwilwyr yn y gwyddorau cymdeithasol ymgysylltu.
Cefnogi ymchwilwyr
-
Pecyn Cymorth Effaith yr ESRC
Mae’r pecyn cymorth hwn yn cynnwys gwybodaeth am ddatblygu strategaeth effaith, hyrwyddo cyfnewid gwybodaeth, ymgysylltu â’r cyhoedd a chyfathrebu’n effeithiol gyda rhanddeiliaid allweddol. -
Gŵyl Gwyddorau Cymdeithasol yr ESRC
Mae hwn yn gyfle i ymchwilwyr yr ESRC gyflwyno’u gwaith i’r cyhoedd. Cynhelir yr ŵyl hon unwaith y flwyddyn dros gyfnod o wythnos gyda digwyddiadau am ddim ledled y DU. -
Cymorth Cyfnewid Gwybodaeth yr ESRC
Mae’r cynllun hwn yn gyfle i wneud cais am gyllid ar gyfer gweithgareddau cyfnewid gwybodaeth ac ymgysylltu â’r cyhoedd yn ystod unrhyw gam o gylch bywyd ymchwil, ac mae wedi ei anelu at gynyddu effaith ymchwil y gwyddorau cymdeithasol i’r eithaf y tu hwnt i academia. -
Cyfuniadau ymchwil yr ESRC
Rydym wedi comisiynu cyfres o adolygiadau llenyddiaeth yn cwmpasu amrywiaeth o faterion o fewn gwyddoniaeth a chymdeithas yn cynnwys ehangu cyfranogiad ac agwedd y cyhoedd tuag at newid amgylcheddol. -
Concordat yr RCUK ar gyfer Ymgysylltu â’r Cyhoedd gydag Ymchwil (gwefan allanol)
Mae’r concordat yn amlinellu disgwyliadau a chyfrifoldebau arianwyr ymchwil yn ymwneud ag ymgysylltu â’r cyhoedd, i helpu i sefydlu ymgysylltu â’r cyhoedd mewn prifysgolion a sefydliadau ymchwil. -
Canolfan Gydlynu Genedlaethol ar gyfer Ymgysylltu â’r Cyhoedd (gwefan allanol)
Cafodd y ganolfan ei sefydlu yn 2008 fel rhan o’r fenter gwerth £9.2 miliwn, ‘Beacons for Public Engagement’, a nod y ganolfan yw cefnogi prifysgolion i ymgysylltu â’r cyhoedd a deall sut i wobrwyo eu hymchwilwyr am y gwaith hwn. -
Ymgysylltu â’r Cyhoedd yr RCUK gyda Chatalyddion Ymchwil (gwefan allanol)
Bydd yr wyth prifysgol hyn yn gweithredu fel catalydd ar gyfer newid diwylliant yn eu sefydliad i’w helpu i sefydlu ymgysylltu â’r cyhoedd gydag ymchwil yn eu polisïau, eu gweithdrefnau a’u harferion. Mae rhestr fanwl ar gael ar wefan yr RCUK. -
Datblygu Deialog – Cymdeithasau Dysgedig yn y Gwyddorau Cymdeithasol: Datblygu Trosglwyddo Gwybodaeth ac Ymgysylltu â’r Cyhoedd (PDF, 804Kb)
Adroddiad yr ESRC ac Academi y Gwyddorau Cymdeithasol (o 2008) ar weithgareddau trosglwyddo gwybodaeth ac ymgysylltu â’r cyhoedd a wnaed gan gymdeithasau dysgedig y gwyddorau cymdeithasol, ac argymhellion ynglŷn â sut i wella’r gweithgareddau hyn. -
Cyfleoedd yr RCUK (gwefan allanol)
Mae’r RCUK yn cynnig cyfleoedd ymgysylltu â’r cyhoedd i ymchwilwyr, sydd wedi eu hamlinellu ar eu gwefan.
Cyrraedd pobl ifanc
-
Gwyddorau Cymdeithasol ar gyfer Ysgolion (gwefan allanol)
Gwefan a blog wedi eu hanelu at athrawon a myfyrwyr Safon Uwch. Mae’n cynnig adnoddau sy’n cwmpasu testunau fel troseddu, delwedd y corff ac etholiadau. Nod y wefan yw helpu i ddod ag ymchwil gyfoes y gwyddorau cymdeithasol i mewn i’r ystafell ddosbarth. -
Anthropoleg i mewn i ysgolion (gwefan allanol)
Mae Sefydliad Brenhinol Anthropoleg, a ariennir gan yr ESRC, wedi datblygu cymhwyster Safon Uwch mewn Anthropoleg ac mae hefyd yn ceisio hysbysu athrawon a myfyrwyr am anthropoleg yn gyffredinol a’r ffordd y gall gyd-fynd â llawer o agweddau ar y cwricwlwm. Mae eu gwefan ‘Discover Anthropology’ yn cynnig adnoddau a dolenni ar gyfer y rheiny sydd â diddordeb yn datblygu eu dealltwriaeth o’r maes hwn. -
Debating Matters (gwefan allanol)
Ni yw pencampwr y gwyddorau cymdeithasol yn y gystadleuaeth drafod hon mewn ysgolion ar draws y DU. -
Cyfleoedd yr RCUK (gwefan allanol)
Mae’r RCUK yn gynnig cyfleoedd i ysgolion a phobl ifanc ymuno ag ymchwilwyr. Ewch i’w gwefan am fwy o wybodaeth.
Cyrraedd y cyhoedd
-
Gwyl Gwyddorau Cymdeithasol yr ESRC
Cynhelir yr Ŵyl unwaith y flwyddyn dros gyfnod o wythnos gyda digwyddiadau am ddim ar draws y DU. Mae gwyliau yn rhoi cyfoeth o wybodaeth am rôl y gwyddorau cymdeithasol yn ein bywydau ac yn cynnwys digwyddiadau sy’n targedu ysgolion a phobl ifanc, a’r rheiny â diddordeb cyffredinol yn y gwyddorau cymdeithasol felly rydym yn ffyddiog bod rhywbeth ar gyfer pawb. -
Society Now
Rydym yn cyhoeddi ein cylchgrawn, Society Now, dair gwaith y flwyddyn, gan gyflwyno’r gwyddorau cymdeithasol mwyaf diweddar a chyfoes i chi. -
Britain in...
Cyhoeddir Britain in... yn flynyddol. Mae’r cylchgrawn yn arddangos amrywiaeth yr ymchwil a ariennir gan yr ESRC yn ymwneud â chyflwr y genedl. Mae’n gymysgedd o farn academaidd a darnau newyddiadurol gwybodus, sy’n rhoi dadansoddiad manwl o ymchwil a materion cyfoes yn ymwneud â Phrydain heddiw. -
Buddsoddiadau’r ESRC
Mae llawer o fuddsoddiadau’r ESRC yn cynnal eu digwyddiadau a’u gweithgareddau eu hunain i’r cyhoedd eu mynychu. I ganfod mwy, ewch i wefan yr ESRC.
