Cyfuniadau ymchwil yr ESRC
Fel rhan o’n strategaeth Gwyddoniaeth mewn Cymdeithas, rydym wedi ymrwymo i gefnogi ymchwil a sicrhau bod y canfyddiadau’n cael eu lledaenu’n eang i’r rheiny sy’n ymwneud â chyflenwi gweithgareddau a datblygu polisi.
Rydym wedi comisiynu sawl adolygiad ar y cyd, yn cwmpasu amrywiaeth o destunau gwyddoniaeth mewn cymdeithas. Nod yr adolygiadau yw crynhoi’r hyn sydd eisoes yn hysbys o ymchwil sydd wedi ei chyhoeddi ac ymchwil gyfredol, ac amlygu’r cwestiynau ymchwil sy’n weddill.
Gallwch lawrlwytho’r cyfuniadau sydd wedi eu cwblhau isod.
Agwedd y cyhoedd tuag at Ansicrwydd Byd-eang: cyfuniad ymchwil sy’n archwilio’r tueddiadau a’r bylchau mewn gwybodaeth
Mae’r cyfuniad hwn, a gomisiynwyd ar gyfer y rhaglen Ansicrwydd Byd-eang ar draws y cynghorau, yn edrych ar yr hyn sydd eisoes yn hysbys am agwedd y cyhoedd tuag at feysydd ymchwil y rhaglen.
Ehangu cyfranogiad gan israddedigion i raddau ymchwil ôl-radd
Mae’r cyfuniad hwn, a gomisiynwyd gan yr ESRC a Chanolfan Gydlynu Genedlaethol Ymgysylltu â’r Cyhoedd, yn amlygu’r tueddiadau a’r bylchau mewn gwybodaeth yn ymwneud â’r hyn sy’n hysbys am ehangu cyfranogiad mewn addysg uwch.
Agwedd y cyhoedd tuag at newid amgylcheddol: adolygiad dethol o ddamcaniaeth ac ymarfer
Mae’r cyfuniad hwn, a gomisiynwyd gan yr ESRC a’r RCUK ar gyfer y rhaglen Byw Gyda Newid Amgylcheddol ar draws y cynghorau, yn edrych ar yr hyn sydd eisoes yn hysbys am agwedd y cyhoedd tuag at newid amgylcheddol.
Gwella ymgymeriad gwyddoniaeth a thechnoleg yn yr ysgol uwchradd
Mae’r cyfuniad hwn, a gomisiynwyd gan yr ESRC a’r Adran Plant, Ysgolion a Theuluoedd, yn edrych ar yr hyn sydd eisoes yn hysbys am arferion addysgu, y mathau o fentrau sydd ar gael a pha effaith y maent yn eu cael.
Dewisiadau gyrfa ac effaith graddedigion PhD: adolygiad o dystiolaeth y DU
Mae’r cyfuniad hwn, a gomisiynwyd gan Uned Ymchwil Gyrfaoedd ac Amrywiaeth yr ESRC ac RCUK, yn adolygu’r hyn sydd eisoes yn hysbys am ddewisiadau gyrfa myfyrwyr sydd wedi cwblhau PhD.
Segmentu’r cyhoedd
Mae’r cyfuniad hwn, a gomisiynwyd gan yr ESRC a Chanolfan Gydlynu Genedlaethol Ymgysylltu â’r Cyhoedd, yn archwilio dulliau ac offer segmentu cynulleidfaoedd ym maes ymgysylltu â’r cyhoedd.
