Beth yw’r gwyddorau cymdeithasol?

Ystyr ehangaf y gwyddorau cymdeithasol yw astudiaeth o gymdeithas a’r ffordd y mae pobl yn ymddwyn ac yn dylanwadu ar y byd o’n hamgylch.

Mae rhai gwyddonwyr cymdeithasol yn dadlau na all un diffiniad unigol gwmpasu ystod mor eang o ddisgyblaethau academaidd. Yn lle hynny, yn syml, maent yn diffinio’r gwyddorau cymdeithasol trwy restru’r pynciau y maent yn eu cynnwys.

Disgyblaethau’r gwyddorau cymdeithasol

Mae prif ddisgyblaethau’r gwyddorau cymdeithasol yn cynnwys:

  • anthropoleg
  • cyfathrebu
  • troseddeg
  • astudiaethau diwylliannol
  • economeg
  • daearyddiaeth ddynol
  • ieithyddiaeth
  • y gyfraith
  • y gwyddorau gwleidyddol
  • seicoleg
  • cymdeithaseg
  • astudiaethau datblygu

Mae bob un o’r gwyddorau cymdeithasol hyn yn defnyddio ystod o ddulliau o astudio cymdeithas, yn cynnwys arolygon, holiaduron, cyfweliadau ac ystadegau. Fel pob gwyddor, mae’r gwyddorau cymdeithasol yn esblygu trwy’r cydadwaith o syniadau a damcaniaethau academyddion a’r dystiolaeth sy’n eu cefnogi neu’n eu gwrthbrofi.

Y ffordd y mae’r gwyddorau cymdeithasol yn llunio ein bywydau

Mae gwyddonwyr cymdeithasol yn dylanwadu ar ein bywydau, fel arfer heb i ni fod yn ymwybodol eu bod yn gwneud hynny. Er enghraifft:

  • mae rôl llywodraethau mewn cymdeithas sy’n gynyddol seiliedig ar y farchnad wedi cael eu pennu gan feddylwyr enwog fel John Maynard Keynes a Karl Popper
  • economydd gafodd y syniad o gael Gwasanaeth Iechyd Gwladol
  • mae talu biliynau o bunnau o fudd-dal y wladwriaeth i’r anghenus wedi cael ei ddylanwadu gan waith gwyddonwyr cymdeithasol.

Mae canfyddiadau ymchwil y gwyddorau cymdeithasol yn parhau i roi gwybodaeth werthfawr p’un a ydych yn rhiant, yn gynghorydd lleol, yn swyddog yr heddlu neu’n swyddog gweithredol mewn busnes.

Fideo: Beth yw’r gwyddorau cymdeithasol? rhan 1

Beth yw’r gwyddorau cymdeithasol, a pha effaith maent yn ei chael ar gymdeithas? Safbwyntiau’r cymunedau academaidd, gwleidyddol a’r cyfryngau.




Fideo: Beth yw’r gwyddorau cymdeithasol? rhan 2




Canfod mwy am ein hymchwil yn y gwyddorau cymdeithasol